Lullaby Project
Caerdydd, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot
Mae The Lullaby Project yn helpu rhieni, gofalwyr a darpar famau sy'n cael trafferth cysylltu â'u babanod neu'n teimlo'n unig. Mae cerddorion proffesiynol a gweithwyr iechyd yn cefnogi pob teulu i greu, canu a recordio hwiangerdd bersonol. Mae teuluoedd yn tyfu o ran hyder ac yn cael eu cefnogi i gysylltu â'u babi yn ystod y profiad arbennig hwn.
- Helpu mamau newydd a darpar famau sy'n ei chael hi'n anodd
- Cynnig cyfle creadigol, unigryw i famau
- Cynnwys teuluoedd a ffrindiau wrth eu cefnogi mewn cyngherddau