Giving Children with Down's Syndrome a Voice
Abertawe

Hoffai'r prosiect sicrhau bod plant â Syndrom Down yn gallu cyflawni eu llawn potensial a gweld bod dysgu i gyfathrebu'n hanfodol. Byddan nhw'n trefnu sesiynau therapi lleferydd ac iaith wythnosol yn Abertawe a'r cyffiniau. Maen nhw'n dymuno i'r plant allu siarad drostynt eu hunain.
- Lleihau straen i blant a'u teuluoedd
- Gwella cyfathrebu ar gyfer pob aelod o'r gymuned
- Grymuso plant i reoli eu bywydau a gwneud penderfyniadau annibynnol