Pleidlais Gyhoeddus Prosiectau’r Bobl
Mae Prosiectau’r Bobl yn rhoi llais i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a’r cyhoedd am sut mae arian y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddefnyddio ac yn cefnogi prosiectau sy’n dod â phobl ynghyd i adeiladu cymunedau cryfach, mwy cysylltiedig. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn trafod casglu gwybodaeth bersonol at ddibenion dilysu pleidleiswyr pan fyddwch yn pleidleisio dros eich hoff brosiect.
Dim ond y maint lleiaf o wybodaeth bersonol angenrheidiol a fydd yn cael ei phrosesu at y diben hwn, a dylai unrhyw wybodaeth ychwanegol a brosesir fod â’r sail ychwanegol a nodir ac unrhyw rwymedigaethau neu ganlyniadau am beidio â darparu’r wybodaeth.
Pwy ydym ni
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw’r Rheolydd Data ar gyfer y wybodaeth a gedwir amdanoch at y diben hwn/dibenion hyn. Manylion cyswllt:
The National Lottery Community Fund,
Apex House,
3 Embassy Drive,
Birmingham,
B15 1TR.
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data’r Gronfa ar y cyfeiriad uchod a thrwy e-bostio Data.Protection@tnlcommunityfund.org.uk
Fel Awdurdod Cyhoeddus nid oes gennym gynrychiolydd mewn unrhyw un o aelod-wladwriaethau’r AEE.
Sut y bydd gwybodaeth amdanoch chi'n cael ei defnyddio
Pwrpas y prosesu
Mae’r wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o’r broses bleidleisio yn caniatáu i’r Gronfa wirio, trwy ein dyfarnwr trydydd parti, pob pleidlais a wneir. Mae hyn yn sicrhau bod pleidleisio’n deg a’r canlyniadau’n gadarn.
Y sail gyfreithlon dros brosesu eich gwybodaeth
Mae’r Gronfa’n dibynnu ar dasgau er budd y cyhoedd, yn unol ag Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU, i brosesu eich enw, cyfeiriad e-bost neu rif ffôn symudol a chod post.
Derbynwyr neu gategorïau derbynnydd y wybodaeth bersonol os o gwbl (Erthygl 13(1)(e))
Cesglir unrhyw wybodaeth bersonol yr ydych wedi'i darparu fel rhan o'r broses bleidleisio drwy'r wefan hon a gynhelir gan Ten4 a'i rhannu â dyfarnwr trydydd parti a benodwyd gan y Gronfa, sef Civica.
Ffynhonnell gwybodaeth
Mae ffynhonnell y wybodaeth bersonol a ddarperir yn dod yn uniongyrchol oddi wrthych chi, yr unigolyn sy’n perthyn i’r wybodaeth bersonol.
Cadw
Cedwir eich gwybodaeth bersonol am gyfnod y broses ddilysu yn unig. Ar gyfer data electronig, bydd hyn yn para am 12 mis, ac ar gyfer ffurfiau ffisegol, bydd hyn yn para am 3 mis.
Gwybodaeth bersonol
Mae gwybodaeth a gedwir yn cael ei chynnal yn y DU.
Eich Hawliau
Mae gennych hawl i wybod pa wybodaeth bersonol y mae’r Gronfa’n ei phrosesu amdanoch. Os ydych am gaffael y wybodaeth, neu os hoffech arfer unrhyw un o’ch hawliau eraill ynghylch prosesu’r wybodaeth, gallwch gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data – manylion cyswllt uchod.
Mae gennych hawl i:
- gael eich gwybodaeth bersonol wedi'i chywiro os yw'n anghywir neu'n anghyflawn.
- gwrthwynebu prosesu eich gwybodaeth (sy'n cynnwys storio) er budd y cyhoedd. Gall yr hawl hon gael ei chyfyngu os yw’r Gronfa’n gallu dangos seiliau cyfreithlon cymhellol dros barhau i brosesu’r wybodaeth.
Gallwch hefyd ofyn i gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol:
- os yw’n anghywir.
- os yw’n anghyfreithlon ond nid ydych am iddi gael ei dileu.
- os yw ar fin cael ei dileu ond rydych angen ei chadw oherwydd hawliad cyfreithiol.
- os ydych wedi gwrthwynebu prosesu'r wybodaeth a'ch bod yn aros am benderfyniad ynghylch y gwrthwynebiad.
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef yr awdurdod goruchwylio ar gyfer y Deyrnas Unedig.
Manylion cyswllt:
- www.ico.org.uk
- E-bost: casework@ico.org.uk
- Ffôn: 0303 123 1113
- Ysgrifennwch at: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire SK9 5AF
Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth at y diben hwn, ond gall hyn fod yn gyfyngedig lle mae rheolydd yn gallu dangos seiliau cyfreithlon cymhellol dros barhau i brosesu.