Prosiectau’r Bobl
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Y Loteri Genedlaethol, ITV, UTV a’r Sunday Mail yn Yr Alban wedi cydweithio i roi cyfle i’r cyhoedd benderfynu sut i roi £4 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol at ddefnydd da yn eu hardal leol.
Gyda 95 o sefydliadau ar y rhestr fer ledled y DU, rydych chi wedi pleidleisio dros y prosiectau yr oeddech am eu gweld yn derbyn £70,000 er mwyn gwella bywydau pobl yn eu cymuned.
Sut fydd y grantiau’n cael eu dyfarnu
Mae Prosiectau’r Bobl wedi dyfarnu tua £45 miliwn i dros 1,000 o achosion da ledled y DU ers iddo ddechrau yn 2005.
Ym mis Medi 2022, gwahoddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol sefydliadau ledled y DU sydd eisoes yn gwneud gwaith gwych yn eu cymuned leol i ymgeisio.
Rhanbarthau ITV:
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac ITV wedi rhoi pum prosiect ym mhob rhanbarth ar y rhestr fer ar gyfer y bleidlais gyhoeddus a chi sydd wedi penderfynu pa brosiectau yr oeddech am eu gweld yn derbyn cyllid y Loteri Genedlaethol.
Mae’r tri phrosiect sydd wedi derbyn y nifer uchaf o bleidleisiau ym mhob rhanbarth ITV wedi derbyn hyd at £70,000. Mae’r eilion gorau wedi cael cynnig gwobr ddewisol hyd at £10,000.
Rhanbarth y Sunday Mail:
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’r Sunday Mail yn Yr Alban wedi rhoi 15 prosiect ar y rhestr fer ar gyfer y bleidlais gyhoeddus a chi sydd wedi penderfynu pa brosiectau yr oeddech am eu gweld yn derbyn cyllid y Loteri Genedlaethol.
Mae’r naw prosiect sydd wedi derbyn y nifer uchaf o bleidleisiau wedi derbyn hyd at £70,000. Mae chwech o’r eilion gorau wedi cael cynnig gwobr ddewisol hyd at £10,000.
Ynghylch ein partneriaid
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw cyllidwr gweithgarwch cymunedol mwyaf y DU – gan gefnogi pobl a chymunedau i lwyddo a ffynnu.
Mae’n dyfarnu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i gymunedau ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac yn gweithio’n agos gyda’r Llywodraeth i ddosbarthu grantiau a chyllid hanfodol o raglenni a mentrau allweddol y Llywodraeth.
Diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r cyllid ar agor i bawb. Mae’n fraint gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol allu gweithio gyda’r grwpiau lleol lleiaf hyd at elusennau ledled y DU, gan alluogi pobl a chymunedau i ddod â’u huchelgeisiau’n fyw.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn bob wythnos at achosion da ledled y DU. Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae £47 biliwn wedi cael ei godi at achosion da. Defnyddiwyd arian y Loteri Genedlaethol i gefnogi dros 635,000 o brosiectau - 255 o brosiectau fesul ardal cod post.
ITV
Mae ITV yn cefnogi’r bleidlais gyhoeddus ar gyfer Prosiectau’r Bobl mewn rhaglenni newyddion ledled Lloegr a Chymru ac UTV yng Ngogledd Iwerddon. ITV News yw sefydliad newyddion masnachol mwyaf y DU, sy’n cynhyrchu newyddion ar raddfa ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.
Sunday Mail
The Sunday Mail yw papur newydd mwyaf poblogaidd Yr Alban, ac mae’n perthyn i’r Daily Record. Mae’n cynnig straeon unigryw am yr Alban, straeon ymchwiliol arobryn, newyddiaduraeth ymgyrchu a llawer mwy.
Y Loteri Genedlaethol
Codir dros £30 miliwn bob wythnos at achosion da ac mae mwy na 670,000 o brosiectau bellach wedi'u hariannu. Am bob gêm a chwaraeir, mae cyfran yn mynd at ariannu prosiectau mawr a bach ar draws y DU, trwy 12 sefydliad arbenigol sy’n dosbarthu’r arian hwn i brosiectau sy’n cefnogi cymunedau, y celfyddydau, chwaraeon a threftadaeth.